Arts
Ar ol absenoldeb o dros chwe mis, fi nol, mo fos! Yng nghwmni fy hen ffrind, y cynhyrchydd teledu a stand up comedian, Beth Angell, a fy nghymydog, Mei Ty Cornel, ni’n mynd ati i drafod profiadau lockdown, partis stryd, Jac yr Undeb v Y Swastika, hanes Cymru a’r cwricwlwm newydd, enwau lleoedd, y twats ’na sy’n rhedeg y wlad, hiliaeth, rhagrith, y GIG, tanco, wanco, y gofid, plu eira a llawer llawer mwy.